New post
Pam mae Linux dal mor anodd?
I'r newbies o leiaf.
Er ôl blynyddoedd i ffwrdd, nes i drio eto'n ddiweddar.
Ffeindiais i hen liniadur, roeddwn i wedi mewnosod Ubuntu arno fe amser hir yn ôl.
Penderfynais i bydde Lubuntu yn system fodern addas. Heriau:
Sut i islwytho'r ISO? Do'n i ddim yn hyderus iawn i ddilyn cyngor gwefan Lubuntu a defnyddio Bittorrent. Anwybyddais i hynny ac islwytho yn uniongyrchol o'r wefan.
Wedyn mae'n son am 'checksums'. Awgrymu meddalwedd arall. Ydw i'n ymddiried yn yr ap yno ar fy Mac? Nes i ddod o hyd i wefan sy'n neud e. Gobeithio bo fi wedi deall yn iawn.
Nesaf, creu'r 'boot disc'. Cyngor ar lein yn gymysg. Awgrymiadau am feddalwedd Mac, ond rhai'n dweud bod hwnna'n doji. Yn y diwedd nes i ddefnyddio meddalwedd Raspberry Pi.
OK, dyma'r ffon cof. Gweithio'r ail dro!
Y peth nes i golli allan oedd trio llosgi dau DVD nad oedd yn gweithio. Sai'n gwybod pam.
Felly dyma fi gyda Lubuntu'n rhedeg. Mewn dau feddwl nawr - gwerthu/rhoi i ffwrdd yr hen beiriant yma, neu ei gadw er mwyn dysgu mwy?